Mae Learnaboutfilm wedi datblygu cwrs newydd achrededig ar wneud ffilmiau gyda phlant, pobl ifanc ac oedolion.
Uned Agored Cymru yw Gwneud Ffilmiau, gyda dau gredyd ar Lefel 2. Mae’r cwrs yn addas ar gyfer gweithwyr a gwirfoddolwyr iuenctid, cymunedol a chelf. Bwriad y cwrs yw datblygu’r sgiliau sydd eu hangen i arwain projectau gwneud-ffilmiau sylfaenol ac a ddarparu’r uned Lefel 1 Creu cynhyrchiad fideo.
Bydd y myfyrwyr yn:
- creu ffilm fer (ysgrifennu amlinelliad, creu storifwrdd, ffilmio, golygu a rhannu)
- cynllunio gweithgaredd ffilm ar gyfer dysgwyr penodol (yn ystyried anghenion y dysgwyr a iechyd a diogelwch, a chreu amlinelliad ac amserlen)
- cloriannu ffilm fer ac awgrymu sut i’w gwella.
Rydym wedi creu llyfryn PDF 20-tudalen ar gyfer canolfannau Agored Cymru sydd am ddarparu’r cwrs hwn. Mae’n cynnwys cyngor ar gynllunio a threfnu projectau gwneud ffilm, canllawiau ar wneud ffilmiau, a thasgau awgrymedig i’r llyfr gwaith.
Cyllidwyd datblygiad yr uned a’r llyfryn gan Ffilm Cymru Wales.
Gall mudiadau addysg ffilm yng Nghymru ddefnyddio cynnwys y llyfryn i ddarparu gweithgareddau ffilm eraill.
Gall canolfannau partner Coleg Cymunedol YMCA Cymru islwytho llyfr gwaith cyfan mewn fformat Word (yn Saesneg).
The post Sut i gynnal gweithgareddau gwneud ffilmiau: uned achrededig appeared first on Learn about film.
Sponcer page
No comments:
Post a Comment